Ysgol Gymraeg newydd i Gasnewydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd y drydedd ysgol gynradd Gymraeg yng Nghasnewydd ei hagor yn swyddogol.
Mae 'na alw cynyddol wedi bod am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y ddinas.
Roedd 'na gryn edrych ymlaen at agor Ysgol Bro Teyrnon ddydd Gwener.
Cychwynnodd 16 o ddisgyblion yn yr ysgol ym mis Medi ac erbyn hyn mae 'na 24 disgybl.
Cyfle i ddiolch
Erbyn mis Medi nesa fe fydd bron i 50 o ddisgyblion yno.
"Y diwrnod mawr wedi cyrraedd ac yn falch o gael agor yr ysgol yn swyddogol," meddai pennaeth yr ysgol Lona Jones-Campbell.
"Mae'n gyfle i ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ar hyd y daith dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae hi wedi bod yn gyfnod cyffrous, ac wedi profi bod angen yr ysgol yn yr ardal,.
"Mae rhieni yn falch fod y ddarpariaeth yma ar gyfer y plant."
Dywedodd bod rhieni yn gweld y cyfle i roi addysg Cymraeg i'w plant yn sgil ar gyfer bywyd.
"Mae'r rhieni wedi colli cyfle ond maen nhw'n sicrhau bod y plant yn cael y cyfle i fod yn ddwyieithog."
Cefnogaeth
Mae'r ysgol ar hyn o bryd yn rhannu safle gydag ysgol Saesneg Maendy.
"Mae'r cyngor yn hynod ddiolchgar am gymorth a chefnogaeth Ysgol Maendy," meddai Ruth Salisbury, swyddog polisi addysg gyda'r cyngor.
"Ond safle dros dro yw hwn a bydd rhaid i'r ysgol symud i gartref parhaol ar gyfer mis Medi 2014.
"Mae hyn yn rhan o gynllun Ysgolion 21ain Ganrif y cyngor."
Yn 2008 fe wnaeth Ysgol Ifor Hael agor gyda 16 o ddisgyblion ac mae'r nifer wedi codi mewn pedair blynedd i dros 140.
Ychwanegodd Ms Salisbury eu bod fel cyngor wedi cynnal arolwg o'r angen dros y blynyddoedd nesa' am addysg Cymraeg lleol a bod 'na wir alw eto am ddarpariaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2009