Campws newydd Prifysgol Abertawe un cam yn nes
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i adeiladu campws gwyddoniaeth ac arloesedd gwerth £400 miliwn ar gyfer Prifysgol Abertawe wedi cael ei gymeradwyo gan gynllunwyr.
Dyma'r eildro i bwyllgor cynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot ganiatáu cais gynllunio amlinellol i'r cynllun.
Bu'n rhaid i'r cynllun gael ei addasu ar ôl cael sêl bendith am y tro cyntaf ym mis Mawrth eleni.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe eu bod wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu'r cynllun.
Credir y gallai'r cynllun greu miloedd o swyddi a'r gobaith yw y bydd y campws newydd ar agor erbyn mis medi 2015.
Yn ôl y brifysgol, hwn yw'r prosiect mwyaf o'i fath ym Mhrydain ac un o'r rhai mwyaf yn Ewrop.
Rolls Royce
Ym mis Ionawr y llynedd cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n helpu cyllido'r campws wrth iddynt gytuno mewn egwyddor i lenwi bwlch cyllido o £15 miliwn.
Y gobaith yw y bydd Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi'r Bae ar Ffordd Fabian yn rhoi cyfle i ymchwilwyr academaidd gydweithio â chwmnïau er mwyn datblygu syniadau o fudd i'r economi.
Byddai'r ganolfan ymchwil a thechnoleg yn caniatáu i'r brifysgol gydweithio â chwmnïau fel Rolls Royce.
Mae disgwyl y byddai'n cyfrannu mwy na £3 biliwn i economi'r rhanbarth dros gyfnod o 10 mlynedd.
Fe fydd y campws ar safle sydd bron i 70 erw, ryw ddwy filltir a hanner o ganol Abertawe ger Ffordd Fabian.
Bydd lle i 4,000 o fyfyrwyr fyw ar y campws.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe: "Mae'r brifysgol yn symud ymlaen yn dda o ran y cynllun cyffrous hwn.
"Rydym yn rhagweld y byddwn ni'n gorffen y broses gaffael cyn bo hir, cyn cyflwyno'r achos busnes i Gyngor y Brifysgol.
"Mae'r brifysgol yn parhau i drafod y cynllun gyda Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a swyddogion Banc Buddsoddi Ewrop ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu'r cynllun."
Straeon perthnasol
- 27 Ionawr 2011
- 17 Mehefin 2009
- 14 Tachwedd 2005
- 21 Tachwedd 2008
- 22 Mawrth 2004
- 13 Mai 2004