Dewhirst: Cyngor Sir Gâr yn barod i helpu
- Published
Mae arweinydd Cyngor Sir Gâr wedi dweud bod yr awdurdod lleol yn barod i helpu gweithwyr stordy sydd mewn peryg o golli eu swyddi.
Bydd dyfodol safle Dewhirst yng Nghapel Hendre ger Rhydaman yn destun ymgynghori sy'n dechrau ar Fehefin 26.
Fe allai 124 o swyddi fod dan fygythiad yn y stordy sy'n cyflenwi dillad i Marks a Spencer.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Kevin Madge fod y cyngor wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru a Chanolfan Byd Gwaith.
'Help'
"Rydyn ni i gyd yn barod am unrhyw ddatblygiadau ynghylch y mater hwn," meddai Mr Madge.
"Ac rydyn ni wedi cynnig cymaint o help ag sy'n bosib i'r cwmni a'i staff.
"Does dim penderfyniad wedi ei wneud am ddyfodol y stordy hyd yn hyn."
Dywedodd y byddai tasglu'n cynnwys y cyngor sir, Llywodraeth Cymru, Canolfan Byd Gwaith yn cael ei ffurfio os oedd y stordy'n cau.
Pedair canolfan
Bwriad M&S yw defnyddio pedair canolfan ddosbarthu yn lle rhwydwaith o stordai llai.
Caeodd yr olaf o ffatrïoedd cynhyrchu dillad Dewhirst yng Nghymru, yn Abergwaun, yn 2002 gyda 160 yn colli eu gwaith.
Cyn hynny caewyd ffatrïoedd yn Llanbed, Abertawe ac Aberteifi.
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Mehefin 2012
- Published
- 15 Mehefin 2012