Gohirio cynllun codi 54 o dai yn Y Felinheli

  • Cyhoeddwyd
Adeiladwyr (cyffredinol)Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Byddai'r safle ar lain o dir pedair erw

Mae cynllun i godi 54 o dai newydd yn Y Felinheli yng Ngwynedd wedi cael ei ohirio.

Bydd swyddogion Gwynedd yn cyfarfod â'r datblygwyr er mwyn trafod tai fforddiadwy, cyfraniad posib at ddarpariaeth addysg a chodi'r tai fesul cyfnod.

Roedd y cyngor cymuned yn erbyn y cais am y byddai'n arwain at or-ddatblygu'r ardal.

Byddai'r tai yn cael eu codi yn agos i Ysgol Gynradd Y Felinheli.

Henoed

Dywedodd y cyngor cymuned fod yr ysgol leol yn llawn ac y byddai'n well codi cartrefi ar gyfer yr henoed.

Roedd swyddogion cynllunio wedi argymell y dylai cynghorwyr drosglwyddo'r penderfyniad i uwch-swyddog.

Yn ôl y cais, byddai'r tai yn amrywio o dai pedair ystafell wely i fflatiau dwy ystafell wely.

Byddai 12 yn unedau fforddiadwy fyddai'n cael eu trosglwyddo i gymdeithas tai.

Pryderon

Roedd pryderon hefyd am beryglon ffordd ger yr ysgol a mynediad i lwybr cerdded.

Ond dywedodd uned drafnidiaeth y cyngor sir fod yr asesiad trafnidiaeth yn "foddhaol".

Mae'r safle wedi ei ddynodi ar gyfer cartrefi yng Nghynllun Datblygu Unedol Lleol y sir.

Arweiniodd ymgynghoriad lleol at 16 o lythyrau gan bobl leol oedd yn mynegi pryderon, gan gynnwys gor-ddatblygu'r safle, yr angen am groesfan i gerddwyr a rhwydwaith ffyrdd oedd eisoes "yn ddiffygiol".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol