Gohirio chwilio afon yn Aberhonddu am ddyn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys wedi gohirio mwy o chwilio yng nghyffiniau Aberhonddu wedi i ddyn fynd ar goll.

Dywedodd yr heddlu fod Afon Wysg yn uchel, yn llifo'n gyflym ac yn beryglus iawn.

"Dim ond staff sy wedi eu hyfforddi'n gymwys sy wedi bod yn chwilio'r afon," meddai'r Arolygydd James Davies.

"Rydyn ni'n rhoi gwybod i'w deulu a byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth iddyn nhw os oes angen."

Fe gawson nhw'r alwad tua 6am ddydd Gwener i chwilio am ddyn lleol 54 oed.

Y gred yw bod y dyn wedi cwympo i'r afon ger Pont Llanfaes yn Aberhonddu yn gynnar fore Gwener.

Mae timau arbenigol wedi bod yn chwilio'r afon rhwng Aberhonddu a Thal-y-bont ar Wysg, pellter o ryw saith milltir.

'Cydlynu'

Fore Gwener dywedodd yr Arolygydd Eric Evans: "Ar hyn o bryd mae'r gwasanaethau brys yn cydlynu'r ymgyrch achub wrth chwilio'r afon a'r ardal leol.

"Fel y gallwch ddychmygu, wedi'r glaw sylweddol mae'r afon yn llifo'n sydyn ac rydym yn bryderus am ddiogelwch y dyn os yw wedi mynd i mewn i'r dŵr."

Roedd yr heddlu, y gwasanaeth tân a chriwiau achub mynydd, hofrennydd a chychod, yn rhan o'r ymgyrch.

30 o ddiffoddwyr

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod tua 30 o ddiffoddwyr yn rhan o'r ymgyrch.

Cafodd pum criw eu galw o Aberhonddu, Crughywel a'r Gelli Gandryll.

Roedd cychod wedi eu galw o Abertawe a'r Gelli Gandryll.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol