Carcharu mam am beidio anfon ei phlant i'r ysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae mam wedi cael ei charcharu am naw wythnos am iddi fethu a sicrhau bod ei phlant yn mynd i'r ysgol.

Roedd y fam wedi cael ei herlyn yn llwyddiannus gan Gyngor Merthyr Tudful yn hydref 2011 ac ym Mis Mawrth 2012. Ar y pryd rhoddwyd carchar gohiriedig iddi.

Gan na fu unrhyw welliant yn record presenoldeb ei phlant, cafodd ei herlyn am y trydydd tro a'i hanfon i garchar.

Dywedodd y cynghorydd Harvey Jones, aelod cabinet cyngor Merthyr Tudful sy'n gyfrifol am addysg: "Ni fydd diffyg presenoldeb yn cael ei oddef."

Dywed y cyngor eu bod "wedi ymrwymo i sicrhau bod holl blant a phobl ifanc yn cael y cyfleoedd maent eu hangen i gyrraedd eu llawn potensial " a bod presenoldeb cyson yn yr ysgol yn "un o'r ffactorau mwyaf o ran cyrraedd y potensial hwn".

Yn ôl llefarydd roedd yr awdurdodau addysg wedi treulio pum mlynedd yn ceisio rhoi cymorth i'r fenyw.

Mae'r ddeddf yn dweud fe allai rhieni sy'n euog o beidio sicrhau bod eu plant yn mynd i'r ysgol wynebu dirwy o £2,500 neu gael eu carcharu am dri mis, neu'r ddau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol