Elw Iceland, £184m, y mwyaf erioed
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni bwydydd Iceland wedi cyhoeddi eu helw mwyaf erioed, £184.3m, cynnydd o 18.5% ers y llynedd.
Dywedodd y cwmni mai dyma'r seithfed flwyddyn yn olynol iddyn nhw dorri record am elw.
Mae'r cwmni, sy'n cyflogi tua 22,000, wedi dweud bod eu gwerthiant wedi codi 9.4% i £2.6bn tra oedd £2.3bn y llynedd.
Ym mis Mawrth fe gwblhaodd y prif weithredwr Malcolm Walker a'i gydweithwyr gytundeb i brynu'r cwmni am £1.55bn.
Dywedodd Mr Walker: "Mae'n wych medru adrodd am dorri record am y seithfed tro ers i mi ddychwelyd i'r busnes yn 2005.
"Rwy'n arbennig o falch ein bod wedi gwneud hyn nid trwy fynd ar ôl targedau elw tymor byr ond trwy gyflawni'r hyn sy'n iawn i'r staff a chwsmeriaid yn y tymor hir."
Agorodd Iceland 16 o siopau newydd y llynedd a phump arall dan yr enw Cooltrader, gan greu 1,000 o swyddi.
Mae gan Iceland Foods Group, y mae ei bencadlys ar Lannau Dyfrdwy, 814 o siopau erbyn hyn.
Straeon perthnasol
- 16 Chwefror 2012
- 10 Mehefin 2011