Cymro'n euog o sylwadau hiliol

  • Cyhoeddwyd
Patrice EvraFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd sylwadau Phillip Gannon wedi eu hanelu at Patrice Evra a chefnogwyr Manchester United

Mae cefnogwr clwb pêl-droed Lerpwl o'r Bermo wedi ei gael yn euog o wneud sylwadau hiliol am chwaraewr a chefnogwyr Manchester United.

Fe welwyd Phillip Gannon, 58 oed, ar gamerâu teledu byw yn gwneud ystum "mwnci" tuag at Patrice Evra.

Clywodd Llyn Ynadon Lerpwl fod hyn yn ystod gêm yn Anfield ar Ionawr 28.

Cwynion

Hon oedd y gêm gyntaf rhwng y ddau dîm ers i un o chwaraewyr Lerpwl, Luis Suarez, gael ei wahardd am wyth gêm wedi i'r Gymdeithas Bêl-droed ei gael yn euog o ymddwyn yn hiliol tuag at Evra.

Wedi 23 munud o'r gêm fe welwyd Gannon yn dodi ei ddwylo o dan ei geseiliau mewn ystum tuag at Evra, ac fe arweiniodd hyn at gwynion i'r heddlu gan y cyhoedd.

Roedd Gannon hefyd wedi gweiddi sylwadau at Evra ac at rai o gefnogwyr Manchester United oedd yn eistedd gerllaw.

Yn ôl un tyst, roedd rhai sylwadau at griw o gefnogwyr anabl.

Dau gyhuddiad

Dywedodd Gannon mai nid ystum "mwnci" a wnaeth ond cyfeiriad at ddynion Oes y Cerrig.

Ond anghytuno wnaeth cadeirydd yr ynadon, gan ddweud bod yr ystum "yn amlwg yn hiliol".

Fe gafwyd Gannon, o Heol Meirion, Y Bermo, yn euog o ddau gyhuddiad o ddefnyddio geiriau enllibus o fewn clyw neu olwg person, geiriau fyddai'n debyg o achosi poen meddwl neu ofn.

Bydd yn cael ei ddedfrydu'n ddiweddarach.