Carcharu tri am ddwyn o fanc

  • Cyhoeddwyd
Banc Barclays ym MachynllethFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Digwyddodd y lladrad ar Fai 19, 2011

Yn Llys y Goron Stoke-on-Trent cafwyd tri dyn yn euog o ladrad mewn banc ym Machynlleth.

Roedd Mark Ricardo Lawlor, 26 oed, a Micquel Daniel France, 24 oed - y ddau o Birmingham - wedi pledio'n euog o ladrata o fanc Barclays yn y dref.

Fe gafodd y ddau ddedfryd amhenodol o garchar er mwyn gwarchod y cyhoedd.

Fe gafodd Robert William Court, 23 oed, saith mlynedd a hanner o garchar am ei ran yn y lladrad ym mis Mai 2011.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi croesawu'r dedfrydau.

'Trydydd achos'

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Shane Williams: "Hwn oedd y trydydd achos o'i fath yn ein hardal ni o fewn y 18 mis diwethaf, a'r tro hwn llwyddwyd i gael yr arian i gyd yn ôl.

"Ond roedd yn drosedd ddifrifol iawn.

"Dylai'r dedfrydau atal unrhyw un sy'n ystyried cyflawni troseddau fel hyn.

"Hoffwn ddiolch i bobl Machynlleth a'r Trallwng am eu hymateb yn ystod y chwilio am y troseddwyr a hoffwn ddiolch hefyd i'n cydweithwyr yn Heddlu Gorllewin y Canolbarth am gynorthwyo wrth ddod â'r dynion yma o flaen eu gwell.

"Mae'r dedfrydau yn newyddion da i ni ... ac yn dangos nad ydym yn mynd i adael i droseddwyr ddianc."