Awtistiaeth: Diffyg gwasanaethau diagnostig yn y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn chwaraeFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,
Mae Llywodraeth Cymru yn honni bod eu strategaeth awtistiaeth yn arwain y byd

Mae yna bryder wedi ei fynegi oherwydd nad oes gwasanaethau diagnostig yn y Gymraeg ar gael i blant awtistig yng Nghymru.

Yn ôl cymdeithas Awtistiaeth Cymru mae hynny yn ychwanegu at y pwysau a'r pryder y mae teuluoedd Cymraeg iaith gyntaf yn ei wynebu.

Ddydd Iau fe ddaeth i'r amlwg bod rhieni yng Nghymru sydd â phlant awtistig yn gorfod aros hyd at saith mlynedd am ddiagnosis,

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru: "Mae tystiolaeth ar lafar yn awgrymu bod problemau gyda chael diagnosis o awtistiaeth pan mai Cymraeg yw'r iaith gynta'.

"Er mwyn derbyn diagnosis mae'n rhaid i deuluoedd ddefnyddio gwasanaethau Saesneg sy'n ychwanegu rhagor o straen a phryder i'r broses."

Mae llywodraeth Cymru'n dweud bod eu strategaeth awtistiaeth - gafodd ei lansio pedair blynedd yn ôl - yn un sy'n arwain y byd.

Fe ddydwedodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd cael diagnosis amserol i rieni a phlant.

"Mae'r gwaith yn mynd rhagddoi wella diagnosis ymhlith plant ac oedolion wrth sicrhau cysondeb ar draws Cymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol