Ariannin dan-20 17-25 Cymru dan-20
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Jimmy Tupou gais cyntaf Seland Newydd yn dilyn sgrym ar linell gais Cymru
Ariannin dan-20 17-25 Cymru dan-20
Mae Cymru wedi gorffen yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Byd yn Ne Affrica ar ôl curo Ariannin.
Pac Cymru wnaeth osod seiliau'r fuddugoliaeth yn Newlands.
Roedd Cymru ar y blaen 19-0 ar yr egwyl, gyda'r asgellwr Tom Prydie yn cicio pedair cic gosb a throsgais ar ôl i Gymru gael cais gosb.
Fe wnaeth Facundo Isa a Juan Cappiello groesi i'r Ariannin, ond ciciodd Prydie ddwy gig gosb arall i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Cafodd GarethThomas ei anfon o'r cau am 10 munud yn hwyr yn y gêm ar ôl tacl peryglus, ond fe fethodd Ariannin a manteisio.