Morgannwg yn colli
- Published
Fe wnaeth James Hildreth sgorio 107 wrth i Wlad yr Haf sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Morgannwg yn y gystadleuaeth 20 pelawd yn Taunton.
Roedd Morgannwg wedi sgorio 178-5, gyda Shaun Marsh yn taro 85.
Ond gyda Hildreth yn taro 107 oddi ar 60 pêl, fe wnaeth Gwlad yr Haf gyrraedd 182-6, gydag un bêl yn weddill.
Buddugoliaeth i'r tim cartref o bedair wiced.