Ailchwilio afon yn Aberhonddu am ddyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys yn chwilio eto yng nghyffiniau Aberhonddu wedi i ddyn fynd ar goll.
Cafodd y chwilio ei ohirio brynhawn Gwener am fod Afon Wysg yn uchel, yn llifo'n gyflym ac yn beryglus iawn.
Fe gawson nhw'r alwad tua 6am ddydd Gwener i chwilio am ddyn lleol 54 oed.
Y gred yw bod y dyn wedi cwympo i'r afon ger Pont Llanfaes yn Aberhonddu yn gynnar fore Gwener.
Roedd timau arbenigol wedi chwilio'r afon rhwng Aberhonddu a Thal-y-bont ar Wysg, pellter o ryw saith milltir.
'Cydlynu'
Ddydd Gwener dywedodd yr Arolygydd Eric Evans: "Ar hyn o bryd mae'r gwasanaethau brys yn cydlynu'r ymgyrch achub wrth chwilio'r afon a'r ardal leol.
"Fel y gallwch ddychmygu, wedi'r glaw sylweddol mae'r afon yn llifo'n sydyn ac rydym yn bryderus am ddiogelwch y dyn os yw wedi mynd i mewn i'r dŵr."
Roedd yr heddlu, y gwasanaeth tân a chriwiau achub mynydd, hofrennydd a chychod, yn rhan o'r ymgyrch.