'Cleifion cyn allforion,' medd AS
- Cyhoeddwyd

Mae AS o Gymru wedi honni bod cleifion yn 80% o ymddiriedolaethau iechyd yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i gyffuriau ar gyfer clefydau fel canser a chlefyd Alzheimer.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, Aelod Llafur Ogwr, fod angen cymryd camau oherwydd prinder cyffuriau.
Mae'r Adran Iechyd wedi dweud bod gwneuthurwyr â chwotâu.
Dywedodd yr AS fod y system wedi methu a galwodd ar Lywodraeth San Steffan i roi blaenoriaeth i gleifion nid allforion.
Ddim ar gael
Roedd wedi anfon cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wedi i fenyw yn ei etholaeth gael gwybod nad oedd cyffur ar gael ar gyfer canser y fron.
Roedd y fferyllydd wedi cysylltu â fferyllwyr eraill, y dosbarthwr a'r gwneuthurwr ond yn ofer.
Ymatebodd 60 o ymddiriedolaethau yng Nghymru a Lloegr i gais yr AS.
Ym Mai cyhoeddodd Aelodau Seneddol y Grŵp Hollbleidiol Fferylliaeth adroddiad am brinder cyffuriau a'r prif reswm am y broblem oedd allforio i wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Mr Irranca-Davies fod ymdrechion i ddatrys y broblem yn wirfoddol wedi methu a bod angen Rhwymedigaeth Gwasanaeth Claf neu fesur arall.
"Ers dwy neu dair blynedd mae hyd 80 o gyffuriau ar y rhestrau prinder," meddai wrth BBC Cymru.
'Elw'n fwy'
"Mae rhai gwneuthurwyr wedi dweud eu bod yn cynhyrchu mwy na 150% o'r hyn sy ei angen.
"Ac mae'r elw'n fwy wrth allforio oherwydd y raddfa gyfnewid."
Dywedodd fod gwledydd Ewropeaidd yn sicrhau bod cleifion yn flaenoriaeth.
Problem arall, meddai, oedd bod meddygon a fferyllwyr yn treulio hyd at 20 o oriau'r wythnos yn chwilio am gyffuriau.
Ymchwilio
Dywedodd yr Adran Iechyd eu bod yn ystyried ymchwilio i'r broblem.
"Dylai gwneuthurwyr sicrhau bod cwotâu'n ystwyth fel bod modd ymateb i alw sy'n amrywio," meddai llefarydd.
"Mae angen iddyn nhw gael cynlluniau wrth gefn ..."
Dywedodd fod gan y llywodraeth stoc o gyffuriau hanfodol fyddai ar gael mewn argyfwng.
"Fe fyddwn yn cymryd camau os yw amharu ar gyflenwi a dosbarthu cyffuriau'n achosi risg ddifrifol i gleifion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd1 Medi 2011