BBC Cymru Fyw

Bellamy'n symud i Gaerdydd?

Published
image captionRoedd seren 32 oed Lerpwl a Chymru ar fenthyg i Gaerdydd am gyfnod.
Mae BBC Cymru'n deall bod yr Adar Gleision yn ystyried perswadio Craig Bellamy i chwarae i'w ddinas enedigol.
Roedd seren 32 oed Lerpwl a Chymru ar fenthyg i Gaerdydd am gyfnod.
Symudodd o Manchester City i Lerpwl yn 2011 ar gytundeb dwy flynedd.
Mae Caerdydd yn gobeithio trafod cynnig â Lerpwl cyn cysylltu â'r chwaraewr.
Sgoriodd 11 o goliau mewn 35 o gemau pan oedd yn chwarae i'r Adar Gleision yn 2010-2011.
Mae wedi sgorio 19 o goliau mewn 69 o gemau rhyngwladol a phan oedd yn chwarae i Norwich City ei gydchwaraewr oedd rheolwr Caerdydd, Malky Mackay.