Cynghorwyr yn trafod ad-drefnu addysg ar gost o £93m
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i gynghorwyr Castell-nedd Port Talbot gymeradwyo ymgynghori yn achos ad-drefnu ysgolion ar gost o £93m.
Dywedodd y cyngor y byddai saith prosiect o fewn chwe blynedd yn dilyn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, cynllun Llywodraeth Cymru.
Y bwriad yw codi ysgol Gymraeg ar gost o £12.4m yn Ystalyfera ar gyfer disgyblion rhwng tair ac 18 oed.
Bydd hon yn cyfuno Ysgol Gyfun Ystalyfera ac Ysgol Gymraeg Y Wern.
Dylai'r gwaith adeiladu ddod i ben yn 2016-2018.
Prosiect arall yw codi ysgol gyfun Gymraeg ar gost o £3.6m ar hen safle Ysgol Gyfun Sandfields ym Mhort Talbot.
Y gobaith yw y bydd y gwaith adeiladu'n dod i ben ym Medi 2017.
Ymhlith y cynigion eraill mae ysgol Saesneg ar gost o £40m yn ardal Baglan ar gyfer disgyblion rhwng tair ac 16 oed.
Bydd hon yn lle ysgolion cyfun Cwrt Sart, Glanafan a Sandfields ac yn cynnwys Ysgol Gynradd Traethmelyn.
Meini prawf
Bydd ysgol Saesneg ar gost o £6m yn Sandfields yn lle ysgolion cynradd Glanymor a Thirmorfa yn cael eu codi erbyn 2013.
Yn lle Ysgol Uwchradd Joseff Sant yn Aberafan bydd ysgol yn cael ei chodi erbyn Medi 2016 ar gost o £18m.
Bydd ysgol gynradd Saesneg ar gost o £7m yn cael ei chodi yn Llansawel ac un ar gost o £6m yn cael ei chodi yng Nghoed Darcy ger Castell-nedd.
Dywedodd y cyngor "fod y cynigion yn dilyn meini prawf y llywodraeth, hynny mwyafswm o ariannu cyfatebol o 50%, ac yn canolbwyntio ar leihau lleoedd gwag, gwella adeiladau - a chostau cynnal mwy effeithlon."
Byddai unrhyw ymgynghori gyda rhieni, staff a llywodraethwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2012