Dai Greene a Chrsitian Malcolm ar y tîm
- Published
Yn ôl y disgwyl, bydd Dai Greene yn arwain ymgyrch Cymru am fedalau athletau yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Enillodd Greene y ras 400m dros y clwydi yn nhreialon Prydain yn Birmingham dros y penwythnos.
Roedd hwb hefyd i Gymru pan lwyddodd Christian Malcolm i orffen yn ail yn ras y 200m i gyrraedd y tîm Olympaidd, a hynny am y pedwerydd tro.
Er ei fod wedi ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Ewrop, pumed yw'r gorau y mae Malcolm wedi gorffen yn y Gemau Olympaidd, gan wneud hynny yn 2000 a 2008.
Er nad yw Dai Greene wedi cael dechrau da i'r tymor, ac wedi bod yn diodde' o firws yn ddiweddar, fe ddangosodd ei allu drwy ennill y ras 400m dros y clwydi mewn amser o 49.47 eiliad.
Methodd Rhys Williams a gorffen yn yr un ras wedi iddo faglu dros y glwyd olaf ond un.
Cyflawnodd Williams yr amser i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, ond yn dilyn y siom bydd rhaid iddo aros i weld a fydd yn derbyn un o'r ddau le dewisol ar y tîm.
Gobeithio am well
Dywedodd Greene: "Mae'n wych cyrraedd y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf.
"I fod yn onest roeddwn i wedi gobeithio rhedeg amser ychydig yn well, ond dyna ni.
"Ond fe fyddaf ar fy ngorau erbyn y Gemau - dwi'n gweld fy amseroedd yn mynd yn gynt bob wythnos wrth ymarfer.
"Mae gen i dipyn o bethau i weithio arnyn nhw, felly mae popeth yn addawol iawn."
Gorffenodd Christian Malcolm gydag amser o 20.63 yn y 200m, gan orffen yn ail i James Ellington.
"Fe ddywedais i mai cymhwyso oedd y peth pwysicaf y penwythnos yma," meddai, "er fy mod yn siomedig i beidio cyflawni hynny yn y 100m hefyd.
"Rwy'n hoffi gwneud y ddwy ras - mae'n help i mi gadw mor ffit â phosib mewn pencampwriaethau pwysig."
Cymry eraill
Er bod Gareth Warburton wedi rhedeg amser sy'n ddigon da ar gyfer y tîm, pedwerydd oedd o yn ras yr 800m yn Birmingham, ac fe fydd rhaid iddo aros am benderfyniad y dewiswyr cyn gwybod os caiff le yn y tîm Olympaidd gydag Andrew Osagie.
Taflodd Brett Morse ei bellter gorau'r tymor hwn yng nghystadleuaeth y ddisgen i orffen yn ail, ond nid yw wedi cyrraedd y nod angenrheidiol, ac mae ganddo tan Orffennaf 1 i wneud hynny.
Trydydd oedd Sally Peake yn y naid polyn, ac fe redodd Caryl Granville o Lanelli ei hamser gorau'r tymor hwn i orffen yn bumed yn ras y 400m dros y clwydi i ferched.
Bydd Team GB yn cael ei gyhoeddi'n llawn yn dilyn Pencampwriaeth Ewrop yn Helsinki ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Published
- 14 Mehefin 2012