Llacio rheolau alcohol ar gyfer Gŵyl Rhuthun
- Cyhoeddwyd

Mae gwaharddiad rhag yfed alcohol wedi cael ei godi ar gyfer gŵyl gerddorol yn Sir Ddinbych wedi trafodaethau rhwng y trefnwyr, yr heddlu a'r awdurdodau.
Roedd y trefnwyr yn poeni y byddai'r gwaharddiad yn tarfu ar fwynhad pobl sy'n mynychu Gŵyl Rhuthun.
Penderfynodd Cyngor Sir Ddinbych osod gwaharddiad ar alcohol fel un o amodau'r drwydded sydd ei hangen er mwyn cynnal yr ŵyl.
Yn ôl swyddogion y sir, roedd angen gwaharddiad o'r fath oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol lleiafrif o bobl yn y gorffennol.
Ond nawr mae'r heddlu wedi llacio ychydig ar yr amodau.
Mae'r ŵyl, a ddechreuodd ddydd Llun, yn para am wythnos.
Yr uchafbwynt yw cyngerdd byw chwe awr ar sgwâr y dre' ddydd Sadwrn.
Diodydd
Bydd caniatâd i bobl fynd â diodydd i Sgwâr San Pedr ar gyfer y cyngerdd sy'n dechrau am 2pm.
Mae caniatâd i bobl yn y tafarndai fynd y tu allan gyda gwydrau plastig.
Ond mae'r heddlu yn rhybuddio fod ganddyn nhw'r hawl i gymryd diodydd oddi ar unrhyw un sy'n camymddwyn neu sydd â gormod o alcohol yn eu meddiant.
Ymhlith yr artistiaid sy'n cymryd rhan mae Gwibdaith Hen Frân, Y Bandana a Dawnswyr Wcrainaidd Hoverla.
Dywedodd Gruff Hughes, cadeirydd yr ŵyl: "Rwy'n falch bod yr heddlu yn mynd i lacio 'ychydig ar y rheolau, a defnyddio eu pwerau pe bai angen.
"Mae'r ŵyl wedi ei chynnal ers nifer o flynyddoedd a bach iawn o drafferth sydd wedi bod."
Dywedodd yr arolygydd Gary Kelly o Heddlu'r Gogledd: "Rydym yn benderfynol o sicrhau y bydd yr ŵyl deuluol hon yn llwyddiant."
Straeon perthnasol
- 11 Mai 2012
- 23 Ebrill 2012