Byrddau iechyd yn gwadu gwerthu cyffuriau

  • Cyhoeddwyd

Mae Byrddau Iechyd Cymru wedi gwadu awgrym eu bod yn gwerthu meddyginiaethau i wledydd eraill er mwyn gwneud mwy o elw.

Roedd Prif Weithredwr Fferyllfa Gymunedol Cymru, Russell Goodway, wedi dweud ei fod yn ymwybodol o sibrydion bod yr arfer yn digwydd.

Ond mae pob bwrdd iechyd sydd wedi ymateb hyd yma, yn gwadu bod hynny wedi digwydd wrth i Lywodraeth Cymru fynegi pryder am brinder cyffuriau.

Daeth sylwadau Mr Goodway i'r amlwg wedi ymchwil gan yr Aelod Seneddol Huw Irranca-Davies oedd wedi canfod bod pobl oedd yn diodde' o gyflyrau sy'n bygwth eu bywydau yn cael trafferth cael gafael ar gyffuriau i'w trin.

Roedd ymchwil Mr Irranca-Davies yn dangos bod cleifion mewn 80% o ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru a Lloegr yn cael trafferth cael gafael ar gyffuriau ar gyfer clefydau cyffredin ond difrifol.

Mae wedi galw am weithredu ar y prinder, gan ddweud mai allforion llewyrchus i wledydd eraill yn Ewrop oedd yn eu hachosi.

System gwota

Mae gan wneuthurwyr system gwota sydd i fod i sicrhau bod digon o feddyginiaethau ar gael i gleifion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Ffynhonnell y llun, Huw Irranca-Davies
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Huw Irranca-Davies wedi gwneud ymchwil i'r mater

Ond dywedodd Mr Goodway bod newidiadau i'r modd o gael gafael ar y cyffuriau wedi cyfrannu at y broblem.

"Roedd y gwneuthurwyr yn amcangyfrif ar sail hanes faint o gyffuriau oedd angen ar fferyllfeydd er mwyn cyflenwi eu cleifion," meddai.

"Er enghraifft, pe bae chi'n defnyddio 20 uned o gyffur bob mis, ond bod 10 o'r rheini yn cael eu mewnforio, byddai'r gwneuthurwr yn credu mai dim ond 10 uned oedd angen arnoch oherwydd dyna faint yr oeddech chi'n prynu ar y farchnad yn y DU.

"Ond nawr does dim modd mewnforio oherwydd newid yn y gyfradd gyfnewid arian ac yn y blaen.

"Mae hynny'n eich gadael yn brin o'r cyffur a dyw'r gwneuthurwyr ddim yn cynyddu faint o'r cyffur sy'n dod ar y farchnad."

Yna fe honnodd Mr Goodway bod byrddau iechyd yn allforio cyffuriau er mwyn "gwneud arian" - rhywbeth sy'n gwbl gyfreithlon.

Gwadu

Ond mae chwech o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru - Caerdydd a'r Fro, Abertawe Bro Morgannwg, Powys, Cwm Taf, Aneurin Bevan a Hywel Dda - yn gwrthod awgrym eu bod erioed wedi gwerthu cyffuriau dramor.

Nid yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb hyd yn hyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae gennym bryder parhaus am y prinder cyffuriau, ac rydym yn awyddus i weithio gyda'r adran iechyd i ateb y broblem.

"Rydym yn cydnabod gwaith caled fferyllfeydd cymunedol, ac yn teimlo bod y system gwota yn rhwystro'u hymdrechion."