Galw am ddysgu mwy o ieithoedd tramor

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion (Cyffredinol)
Disgrifiad o’r llun,
Mae galw am i fwy o blant ddysgu ieithoedd tramor

Mae 'na rybudd y bydd economi Cymru yn cael ei niweidio - am nad oes digon o blant yn dysgu ieithoedd tramor.

Daw'r rhybudd wrth i CILT Cymru, sef y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ieithoedd tramor, gynnal eu cynhadledd yn Llandudno ddydd Mawrth.

Mae cynhadledd arall wedi ei threfnu yng Nghaerdydd ar gyfer Mehefin 29.

Bydd cynadleddwyr yn clywed bod y nifer sy'n astudio ieithoedd tramor mewn ysgolion a cholegau yn lleihau.

Disgrifiad,

Rhodri Llywelyn yn holi Ceri James ar y Post Cyntaf.

Mae'r Ganolfan o'r farn y gallai hyn fod yn "niweidiol, nid yn unig i fusnesau Cymreig, ond hefyd i obeithion pobl ifanc o ddod o hyd i swyddi ar ôl iddyn nhw gwblhau eu haddysg".

Dywed y Ganolfan fod yna alw am sgiliau Almaeneg gan fyd busnes, ond bod llai o ysgolion yn cynnig y pwnc nag yr oedd ddegawd yn ôl.

Bydd y gynhadledd yng Nghaerdydd yn cael ei hagor gan Graham Morgan, cadeirydd Siambr Fasnach De Cymru.

"Mae hyder, medrau a chysylltiadau i gyd yn elfennau pwysig wrth ymwneud â marchnadoedd tramor, ac mae sgiliau iaith a chyfieithu yn hollbwysig," meddai.

Mae helpu pobl ifanc i ddeall y cyswllt rhwng ieithoedd a'r angen i'w defnyddio yn y gweithle yn elfennau hollbwysig o waith CILT Cymru."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol