BBC Cymru Fyw

Un lôn ar yr A55 wedi agor ar ôl tân ar fws

Published
image copyrightAdam Phillips
image captionMwg yn dod o'r bws sydd ar dân ar yr A55 (llun: Adam Phillips)
Mae'r A55 wedi ail agor ar ôl i un lôn orllewinol orfod cau wrth i ddiffoddwyr daclo tân ar fws yn Sir y Fflint.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ger cyffordd 32A Helygain am 3.28pm ddydd Llun.
Bu un lôn ar gau am bron i bum awr, tan tua 8.30pm.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân bod y bws ar dân ond bod y teithwyr wedi llwyddo i ddianc.
Roedd 45 o bobl ar y bws ar y bryd.
Nam ar yr injan achosodd y tân sydd wedi dinistrio'r bws yn llwyr.
Cafodd tair injan, criwiau o Lanelwy, Treffynnon a Glannau Dyfrdwy, eu galw i'r digwyddiad.