Manning: Erlyniad wedi celu gwybodaeth?
- Published
Mae erlyniad yn yr achos yn erbyn milwr Americanaidd gafodd ei fagu yn Sir Benfro wedi cael eu cyhuddo o gelu gwybodaeth.
Mae Bradley Manning yn wynebu cyhuddiadau o ryddhau gwybodaeth gyfrinachol i wefan Wikileaks, a thrwy hynny beryglu bywydau milwyr America yn y Penrhyn Arabaidd.
Mewn gwrandawiad cyn yr achos go iawn mewn llys milwrol, mae'r barnwr - Cyrnol Denise Lind - wedi gorchymyn yr erlyniad i gyfiawnhau eu gweithredoedd wrth ddatgelu gwybodaeth i'r amddiffyniad.
Mae'r milwr 24 oed - aeth i Ysgol Tasker Milward yn Hwlffordd - yn wynebu dedfryd o garchar am oes os fydd yn euog o 22 cyhuddiad yn ei erbyn.
'Chwarae gemau'
Dywedodd cyfreithiwr yr amddiffyniad, David Coombs, y bydd asesiad o'r niwed achoswyd drwy ryddhau'r wybodaeth yn dangos ychydig iawn neu ddim niwed i ddiogelwch cenedlaethol America.
"Fel arfer nid yw'r gemau yma'n cael eu chwarae," meddai.
"Rydych chi'n datgelu'r holl wybodaeth a gadael i'r ffeithiau sefyll. Dydych chi ddim yn chwarae gêm o 'guddio'r bêl', a dyna mae'r llywodraeth wedi bod yn gwneud."
Roedd yr Uwch-gapten Ashden Fein yn mynnu bod yr erlyniad yn cwrdd â'u cyfrifoldebau wrth iddyn nhw archwilio'r dogfennau perthnasol, ond dywedodd bod y broses yn cymryd amser gan ei fod yn cynnwys ceisiadau am wybodaeth o 63 o asiantaethau'r llywodraeth.
"Mae'r amddiffyniad yn derbyn yr holl wybodaeth y mae ganddynt hawl i dderbyn," meddai.
Achos teg?
Er hynny mae'r barnwr wedi gorchymyn yr erlyniad i baratoi "datganiad diwydrwydd haeddiannol" sy'n disgrifio'u hymdrechion i rannu gwybodaeth yn llawn yn y ddwy flynedd ers i Bradley Manning gael ei gyhuddo.
Dadl Mr Coombs yw bod methiannau'r erlyniad eisoes wedi amharu ar hawl Manning i gael achos teg.
Mae'r barnwr hefyd wedi gorchymyn yr erlyniad i drosglwyddo asesiadau o niwed gafodd eu paratoi gan Adran y Wladwriaeth a'r Swyddfa Gwrthderfysgaeth Cenedlaethol er mwyn iddi hi eu hadolygu.
Roedd yr achos go iawn yn erbyn Bradley Manning i fod i ddechrau ar Fedi 21 eleni, ond eisoes mae'r barnwr wedi awgrymu y bydd yn cael ei ohirio tan naill ai mis Tachwedd neu fis Ionawr y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Mehefin 2012
- Published
- 4 Chwefror 2012
- Published
- 12 Ionawr 2012