Heddlu'n awyddus i holi dyn am ladrad
- Published
Mae'r heddlu yn Abertawe sy'n ymchwilio i ladrad dros wythnos yn ôl wedi cyhoeddi llun o ddyn y maen nhw'n awyddus i'w holi am y digwyddiad.
Digwyddodd y lladrad rhwng 3:15pm a 4:00pm ar ddydd Gwener, Mehefin 15.
Aeth rhywun i mewn i fflat uwchben tafarn The Strand drwy ddrws cefn y gegin.
Ymhlith yr eitemau gafodd eu dwyn roedd bag croen crocodeil du a gwyn, a gliniadur o fath Compaq.
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi lluniau o gamerâu cylch cyfyng o ddyn y maen nhw'n awyddus i'w holi - cafodd ei ddisgrifio fel dyn gwyn oedd yn gwisgo cap pêl-fâs tywyll, siaced 'hoodie' lwyd a jeans, ac roedd yn gwthio beic mynydd du a gwyn wrth gerdded ger y safle.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio'r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.