Carchar i leidr wedi marwolaeth gwraig oedrannus
- Cyhoeddwyd
Cafodd lleidr ei garcharu am dros bedair blynedd wedi i'r wraig y gwnaeth ddwyn ganddi farw.
Clywodd y llys nad oedd tystiolaeth i gysylltu marwolaeth y fenyw 84 oed i'r lladrad, ond mai'r lleidr oedd yn gyfrifol am ei anhapusrwydd ar ddiwedd ei hoes.
Roedd y diffynnydd - Alec Paul Jones, 34 oed o Dreffynnon - wedi gwadu cyhuddiad o fwrgleriaeth yn wreiddiol.
Ond newidiodd ei ble yn y llys ddydd Mawrth wedi i dystiolaeth gysylltu ei esgidiau gyda safle'r drosedd.
Ar Ionawr 19 eleni, roedd wedi mynd i gartref Mrs Catherine Staniforth ar Ffordd Parc Y Fron yn Nhreffynnon yng nghanol nos a dwyn dau fag, pwrs, £90 o arian parod ac eitemau eraill.
Dridiau yn ddiweddarach bu farw Mrs Staniforth yn ei chartref.
'Gofidus ac ofnus'
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, dywedodd y Barnwr Niclas Parry: "Un o'i phrofiadau olaf ar ddiwedd bywyd yr oedd wedi parchu'r gyfraith, oedd cael ei gadael yn ddryslyd, yn ofidus ac ofnus oherwydd lladrad yn ei chartref.
"Roedd yn poeni y byddai'r lleidr yn dychwelyd. Roedd yn byw ar ei phen ei hun, ac yn cysgu yn ei gwely pan ddaeth lleidr i mewn tair noson yn gynt.
"Yn oriau man y bore, fe gododd i weld beth oedd y sŵn ac fe welodd hi chi.
"Cafodd gysur gan gymydog, ond nid oedd yn medru cysgu wedi hynny."
Dywedodd y Barnwr Parry bod y drosedd yn waeth gan fod Jones wedi ei gael yn euog o ddwyn o dai ar 35 achlysur o'r blaen, a'i fod wedi cael dedfrydau o bedair blynedd o garchar yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
"Mae'r amser wedi dod i'r cyhoedd gael cyfnod hir arall o lonydd i'w gwarchod rhagoch chi," ychwanegodd.
Cafodd Jones ddedfryd o bedair blynedd a naw mis o garchar.