Dyn yn marw ar safle adeiladu
- Cyhoeddwyd

Bu farw dyn 54 oed ar ôl iddo gael ei ddal yn gaeth mewn ffos ar safle adeiladu yn Sir Benfro.
Dywed yr heddlu fod y dyn yn byw yn lleol a bod ei deulu wedi cael gwybod.
Mae'r heddlu a'r gweithgor iechyd a diogelwch yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i'r digwyddiad ar Ffordd yr Orsaf ym mhentre' Treletert ger Abergwaun.
Rhoddwyd gwybod hefyd i Swyddfa'r Crwner.
Roedd y dyn yn gweithio ar ddatblygiad tai newydd. Deellir ei fod yn adeiladu seiliau un o'r tai ar y pryd.
Cafodd tîm achub arbenigol eu galw, ynghyd â swyddogion tân a pharafeddygon.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Cafodd swyddogion Sir Benfro eu galw i'r safle yn Nhreletert tua 10:10am ar ôl adroddiadau fod dyn yn gaeth mewn ffos.
"Gallwn gadarnhau bellach bod dyn 54 oed wedi marw.
"Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod, ac mae crwner Ei Mawrhydi yn Sir Benfro hefyd wedi cael ei hysbysu am y farwolaeth."