Angen 'ymdrech sylweddol' i gyrraedd targed o leihau nifer ysmygwyr
- Cyhoeddwyd

Mae 27,000 o bobl yn gorfod cael triniaeth mewn ysbyty oherwydd effaith ysmygu pob blwyddyn, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mewn adroddiad ar y cyd â Llywodraeth Cymru maen nhw hefyd yn nodi pryderon bod un o bob chwech o ferched beichiog yn ysmygu , y ffigwr ucha' ar gyfer y DU.
Mae'r adroddiad yn nodi bod angen "ymdrech sylweddol" ar weinidogion i gyrraedd eu targed o leihau nifer yr ysmygwyr yng Nghymru erbyn 2020.
Yn ôl amcangyfrif Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru roedd 23% o oedolion yn ysmygu yn 2010.
Maen nhw am leihau hynny i 16%.
Dywedodd prif swyddog meddygol Cymru bod gostyngiadau o'r fath wedi eu cyrraedd mewn gwledydd tramor.
Yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Mercher, Tybaco ac Iechyd yng Nghymru, mae nifer y rhai sy'n ysmygu ers 1978 wedi gostwng.
Ymateb lleol
Y pryd hynny roedd 40% o bobl Cymru yn ysmygu.
Ond mae graddfa'r gostyngiad wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diweddar.
Mae Ash Cymru yn galw am gynllun blynyddol i gyrraedd y targed a mwy o gyfrifoldeb yn cael ei roi ar lefel lleol mewn ardaloedd difreintiedig lle mae mwy yn ysmygu.
"Mae'r raddfa mewn ardaloedd fel Merthyr Tudful a Blaenau Gwent yn gorfod lleihau," meddai Elen de lacey, Prif Weithredwr Ash Cymru.
"Mae angen ateb gofynion Cymru gyfan ond mae angen i bob ardal gymryd cyfrifoldeb ."
Fe wnaeth alw hefyd am darged tymor canol o 2015 gan fod 2020 yn "bell bell i ffwrdd".
Dywedodd Dr Judith Greenacre o Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod yr ystadegau yn "achos pryder gwirioneddol".
Eglurodd bod ysmygu wedi achosi dros 5,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn.
"Mae'n cael effaith sylweddol ar unigolion sy'n ysmygu, ar eu teuluoedd ac ar blant.
"Mae'r strategaeth yn symud yn y ffordd gywir," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- 17 Mehefin 2012
- 11 Mai 2012
- 13 Ebrill 2012
- 6 Chwefror 2012