Enwi dyn fu farw ar safle adeiladu
- Cyhoeddwyd

Y gwasanaethau brys wrth y safle yn Nhreletert
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw dyn 54 oed fu farw ar ôl iddo gael ei ddal yn gaeth mewn ffos ar safle adeiladu yn Sir Benfro.
Roedd Glyndwr Richards yn 54 oed o Grymych.
Mae'r heddlu a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio ar y cyd i'r digwyddiad ar Heol yr Orsaf ym mhentre' Treletert ger Abergwaun.
Dywedodd ei deulu: "Roedd Glyndwr yn ddyn caredig, cariadus ac yn chwedlonol yng Nghrymych.
'Colled'
"Roedd yn gysylltiedig â Chlwb Rygbi Crymych, ac fe gafodd fwynhad mawr o hynny.
"Mae'r golled yn enfawr ac fe fyddwn yn gweld ei eisiau yn fawr iawn".
Roedd Mr Richards yn gweithio ar ddatblygiad tai newydd. Deellir ei fod yn adeiladu seiliau un o'r tai ar y pryd.
Cafodd tîm achub arbenigol eu galw ynghyd â swyddogion tân a pharafeddygon.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol