Gareth Bale yn arwyddo cytundeb newydd gyda Tottenham
- Published
image copyrightGetty Images
Mae'r Cymro Gareth Bale wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd gyda Tottenham Hotspur, medd y clwb.
Fe fu dyfalu y byddai'r asgellwr 22 oed yn cael ei hudo gan un o glybiau mawr Ewrop ond mae wedi arwyddo i Spurs tan 2016.
Dywedodd: "Mae'r clwb yn gwneud cynnydd a dwi am fod yn rhan o hynny.
"Felly dwi wrth fy modd yn arwyddo cytundeb.
'Mwynhau'
"Dwi wedi bod yma am bum mlynedd ac wedi mwynhau pob munud.
"Dwi'n dwlu ar y clwb a'r cefnogwyr".
Ymunodd â Tottenham o Southampton ym Mai 2007 pan dalodd Spurs £5m amdano.
Ym mis Hydref cafodd ei enwi'n Bêl-droediwr Gorau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae BBC Cymru yn deall bod Bale yn un o bedwar Cymro yng ngharfan Team GB ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Straeon perthnasol
- Published
- 2 Tachwedd 2011
- Published
- 4 Hydref 2011