Angladd Cpl Michael Thacker: Tafarn yn ymddiheuro

  • Cyhoeddwyd
Cpl Michael ThackerFfynhonnell y llun, MOD
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Cpl Michael Thacker ei saethu ar Fehefin 1

Mae rheolwr tafarn yn Coventry wedi ymddiheuro ar ôl i filwyr oedd mewn gwisg filwrol gael eu hatal rhag mynd i'r dafarn.

Ddydd Llun roedd y milwyr o fataliwn cyntaf y Cymry Brenhinol yn angladd y Corporal Michael Thacker gafodd ei ladd yn Afghanistan.

Mae gan y dafarn bolisi o beidio â gadael i bobl mewn lifrai i mewn i'r dafarn.

Mae 'na ddeiseb ar wefan Facebook yn galw ar i bobl beidio â mynd i dafarn Browns Independent Bar ar ddiwrnod y lluoedd arfog ddydd Sadwrn.

Dywedodd y perchennog, Ken Brown, nad oedd y staff yn sylweddoli bod angladd yn cael ei gynnal.

Roedd y Corporal Michael Thacker, o Fataliwn Cyntaf y Cymry Brenhinol, yn byw yn Coventry ond cafodd ei addysg yng Nghwmbrân.

Cafodd ei saethu yn ardal Nahr-e-Saraj yn nhalaith Helmand.

Mae'n gadael gwraig, Catherine, a merch dwy flwydd oed Millie.

Roedd yr angladd yn y gadeirlan yn Coventry.

Roedd ar ei drydedd daith i Afghanistan. Mae ei frawd iau, y Corporal Matthew Thacker, hefyd yn aelod o'r bataliwn ac fe ddisgrifiodd ei frawd Michael fel "arwr go iawn" oedd yn caru ei waith.