Dyn 22 oed o Faesteg yn cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio ar ôl i ddyn 20 oed gael ei drywanu i farwolaeth yn ardal Maesteg wedi arestio dyn lleol 22 oed.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Hurley, sy'n arwain yr ymchwiliad, fod ymateb y gymuned leol wedi bod yn wych.
Ond maen nhw'n parhau i apelio am wybodaeth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Nantyffyllon o Faesteg nos Fawrth ar ôl i ddyn 20 oed a llanc 17 oed gael eu trywanu.
Bu farw Thomas Sutton o Stryd Fictoria, Caerau, Maesteg, yn yr ysbyty o'i anafiadau.
Mae'r llanc 17 oed, sydd wedi ei enwi yn lleol fel Kyle Harris, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl iddo yntau gael ei drywanu.
Apêl
Mae Heol Tonna ym Maesteg yn parhau ar gau ddydd Iau wrth i'r heddlu ymchwilio.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r heol am 9pm nos Fawrth.
Mae ystafell ymchwilio wedi ei sefydlu yng ngorsaf yr heddlu Pen-y-bont ar Ogwr.
"Rydym yn apelio ar unrhyw un oedd ar heol Tonna rhwng 7pm a 9.30pm nos Fawrth neu a welodd unrhyw beth amheus i gysylltu gyda ni," ychwanegodd Mr Hurley.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio ystafell ymchwilio'r heddlu ar 01656 306 099 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2012