Ffilm gan ddisgyblion i wella ymddygiad plant ar drenau
- Cyhoeddwyd

Disgyblion ysgolion uwchradd sydd wedi cynhyrchu ffilm ddwyieithog sy'n ceisio gwella ymddygiad plant ar drenau.
Gwnaed y ffilm gyda chymorth Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian, sef grŵp sy'n cynnwys cwmni Trenau Arriva Cymru a chynghorau Gwynedd, Powys, Ceredigion ac Amwythig.
Dywed y bartneriaeth ei fod yn mynd i'r afael ac ymddygiad drwg sy'n cael effaith ar deithwyr eraill.
Mae ymddygiad o'r fath yn cynnwys iaith anweddus a rhoi traed ar seddi.
Mae'r ffilm gan ddisgyblion ysgolion uwchradd Ardudwy a Thywyn hefyd yn cyfleu neges am ddiogelwch ar y rheilffordd.
"Bydd llawer o bobl ifanc fydd yn teithio i'w ysgolion ar y trên ym mis Medi yn gwneud hynny am y tro cyntaf heb eu rhieni neu warchodwyr," meddai Rhydian Mason, swyddog gyda phartneriaeth Rheilffordd y Cambrian.
"Mae'n bwysig ein bod yn gallu rhoi cyngor iddyn nhw tra'n ifanc fel ein bod yn ei diogelu am flynyddoedd i ddod."
Mae rheilffordd y Cambrian yn gwasanaethu ardaloedd sy'n cynnwys Aberystwyth, Pwllheli a'r Trallwng.
Cafodd y ffilm ei ariannu gan Network Rail, Cyngor Gwynedd, Trenau Arriva Cymru a Trac consortiwm cludiant y canolbarth.