BBC Cymru Fyw

Blas ar Eisteddfod Llangollen yn Llundain

Published
image captionMae dawnswyr o India yn perfformio yn Llundain cyn mynd i Langollen
Mae cyngerdd "Carnifal Cerddorol y Gymanwlad" yn dod â blas Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i'r Senedd yn Llundain ddydd Llun.
Corau a dawnswyr o'r Gymanwlad, sydd ar eu ffordd i Langollen, sy'n perfformio o flaen cynulleidfa sy'n cynnwys pobl ifanc â thalent gerddorol arbennig, arwyr lleol, grwpiau cymunedol ac Aelodau Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi.
Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Llangollen rhwng Gorffennaf 3 a 8.
Dywedodd cynhyrchydd y carnifal, Janet McBride, fod hwn yn "achlysur unigryw" yng nghanol San Steffan.

'Cyfuniad'

"Mae'n ymgorffori cyfuniad o ysbryd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a Diwylliannau'r Gymanwlad yn 2012."
Yn y perfformiad mae corau o Ganada, De Affrica ac Awstralia.
Mae grŵp dawnsio o India, côr Maori, côr o leisiau o Gymru a Chôr Plant Watoto, côr elusennol sy'n edrych ar ôl plant amddifad yn Uganda, hefyd yn cymryd rhan.
Mae'r achlysur yn cael ei lwyfannu mewn cydweithrediad â Chymdeithas Seneddol y Gymanwlad fel rhan o ddathliadau'r Jiwbilî eleni.

Straeon perthnasol

  • Eisteddfod Llangollen yn lansio Llanfest