Gorffen prosiect £2 miliwn i drwsio pier
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith wedi gorffen ar brosiect £2 filiwn i ailddatblygu a thrwsio Pier Biwmares ym Môn.
Mae'r strwythur wedi cael ei adfer i'w led wreiddiol ac mae'r strwythur pren wedi cael ei gryfhau neu ei adnewyddu.
Mae cynllun y pier yn rhan o brosiect £5.6 miliwn i wella adnoddau ar hyd arfordir yr ynys.
Mae'r gwaith hefyd wedi cynnwys ailwampio'r ciosg, adeiladu pontŵn a chreu pont fydd yn galluogi mynediad gwell o'r Fenai i'r Pier.
Yn dilyn ymgynghoriad â'r gymuned leol a rhanddeiliaid, bydd y gwaith hefyd yn cynnwys ail-wynebu'r gwaith maen ar y Pier ac ailosod y stepiau pren ar ben y Pier.
'Rhan bwysig'
Dywedodd Bryan Owen, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn a'r deilydd portffolio ar gyfer datblygu economaidd a thwristiaeth: "Mae Biwmares yn un o atyniadau prysuraf yr ynys ac mae'r pier yn rhan bwysig o hynny.
"Bydd y gwaith yma'n galluogi ni i wneud y mwyaf o gyfraniad y pier i'r economi leol a rhanbarthol, rŵan ac i'r dyfodol."
Ychwanegodd yr aelod lleol ar gyfer Biwmares, Y Cynghorydd RL Owen: "Roeddwn yn falch o weld cydweithio da rhwng y gymuned leol a'r tîm oedd yn gweithio ar y pier yn fy rôl fel Cadeirydd Grŵp y Defnyddwyr.
"Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o gyflawni'r gwelliannau pwysig yma i'r pier, a gobeithio y bydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr a phobl leol fwynhau tref hyfryd Biwmares."
'Arfordir hardd'
Bydd y Pier yn cael ei ailagor ddydd Gwener gan Ddirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru ar gyfer Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies AC.
Dywedodd Mr Davies: "Rwy'n falch fod rhaglen Môn a Menai Llywodraeth Cymru a Chronfeydd Strwythurol Ewropeaidd wedi helpu adnewyddu adeilad hanesyddol mor bwysig a sicrhau bod yr arfordir hardd yma yn medru cael ei werthfawrogi gan bawb.
"Dim ond un elfen o gynllun £5.6m i wella cyfleusterau ar hyd arfordir Ynys Môn yw'r gwelliannau i'r pier, er mwyn sicrhau buddiannau economaidd i'r ynys a'r ardal gyfagos.
"Rwy'n ffyddiog y bydd y cynllun yn dangos fod yna gyfleoedd economaidd sylweddol i fusnesau a thwristiaid ar arfordir Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2009