Ymgynghori ar ddatblygu safle hen chwarel Glyn Rhonwy

  • Cyhoeddwyd
Chwarel Glyn RhonwyFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r safle 225 erw'n cynnwys tri phwll chwarel

Mae ymgynghoriad yn dechrau ddydd Gwener ar gynlluniau i ddatblygu safle hen chwarel yng Ngwynedd.

Mae Cyngor Gwynedd wedi arwyddo cytundeb tair blynedd i neilltuo rhan o safle Glyn Rhonwy yn Llanberis i Quarry Battery fel y medran nhw ddatblygu eu cynlluniau i osod cyfleuster cynhyrchu trydan storio pwmp ar y safle.

Y cwmni hwnnw o Lundain sy'n cynnal ymarferiad ymgynghori cyhoeddus lleol cyn iddyn nhw symud ymlaen i gyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

Yn ôl y cyngor, mae'r safle 225 erw â photensial i greu swyddi.

Y cyngor sy'n berchen ar y safle sy'n cynnwys tri phwll chwarel, tomenni llechi, cyn-storfa bomiau tanddaearol a thir pori bras.

Cadarnhaodd y cyngor bod dau brosiect arall ar gyfer rhannau eraill o'r safle wedi symud ymlaen i'r cytundeb neilltuo ffurfiol - un ar gyfer cyfleuster gwersylla a charafannau a'r llall ar gyfer canolfan i hyfforddi gweithwyr a phrofi deunyddiau i weithio ar uchderau.

'Cyfleoedd sylweddol'

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi, y Cynghorydd John Wynn Jones: "Mae Glyn Rhonwy wedi cael ei nodi gan Gyngor Gwynedd fel safle strategol ar gyfer datblygu economaidd sydd â'r potensial i greu cyfleoedd sylweddol am swyddi.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid o Raglen Môn Menai Llywodraeth Cymru i wneud gwelliannau sylweddol i seilwaith y safle er mwyn gwneud y lleoliad yn atyniadol i fuddsoddwyr posibl.

"Er gwaetha'r amodau economaidd hynod heriol, rydan ni'n falch o gadarnhau ein bod ni wrthi ar hyn o bryd yn gweithio efo nifer o gwmnïau i ddatblygu amrywiaeth o brosiectau cynaliadwy ar gyfer y safle."

'Cynnydd calonogol'

Dywedodd bod cwmni Quarry Battery yn gwneud "cynnydd calonogol" gyda'u cynlluniau.

Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal yng ngwesty'r Legacy Royal Victoria yn Llanberis, rhwng 10am a 4.30pm ddydd Gwener a 10am a 7.30pm ddydd Sadwrn.

Yn 2007 fe wnaeth cwmni oedd am godi canolfan sgïo ar safle Glyn Rhonwy dynnu'n ôl y cynllun.

Honnodd cwmni Adwy Eryri nad oedd y cyngor sir wedi eu cefnogi ond yn ôl Cyngor Gwynedd, roedd gwendidau yn y cynlluniau gafodd eu rhoi iddyn nhw.

Roedd cwmni Adwy Eryri wedi dweud y byddai'r cynllun i godi canolfan sgïo yn golygu 700 o swyddi i'r ardal.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol