Carchar i ddyn am losgi ei dŷ yn Llanboidy
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o orllewin Cymru gyfaddefodd iddo losgi tŷ ei hun ar ôl colli ei dymer wedi ei garcharu am ddwy flynedd.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Andrew Sheppard, 47 oed o Lanboidy, Sir Gaerfyrddin, wedi llosgi ei dŷ, oedd heb yswiriant, yn ulw ar ôl ffrae gyda'i wraig.
Cymerodd criwiau o Hendygwyn-ar-daf, Crymych ac Arberth dair awr i reoli'r tân.
Dywedodd Ieuan Rees ar ran yr erlyniad fod Sheppard a'i wraig Jacqueline wedi defnyddio ei chyflog hi fel athrawes anghenion arbennig i dalu am y tŷ-eco.
Erbyn Mawrth 23 roedd yr adeilad bron wedi ei gwblhau ond roedd y cwpl yn parhau i ddefnyddio carafán i goginio bwyd.
Ffrae
Bu ffrae enfawr rhwng y ddau gyda Mrs Sheppard yn cloi ei hun yn y garafán a dweud bod y briodas ar ben.
Fe lwyddodd Sheppard i fynd i mewn i'r garafán a dweud: "Bydda i'n mynd i garchar am beth rwy'n mynd i wneud. Rwy'n moyn llosgi'r lle i lawr."
Yn ystod yr awr nesa roedd hi'n gallu clywed Sheppard yn dinistrio popeth o werth yn y tŷ o'r enw Llwyn y Croi.
Penderfynodd hi gerdded i dŷ ei rhieni, taith bum munud ond wrth wneud hynny fe welodd y lle ar dân.
Potel wag
Fe losgodd y tŷ oedd wedi ei adeiladu o ddeunydd naturiol yn ulw.
Cafwyd hyd i Sheppard yn gorwedd ar y llawr yn gafael mewn potel o win gwag.
Dywedodd Mr Rees nad oedd modd rhoi gwerth ar y tŷ ond bod Mrs Sheppard wedi colli £10,000 o eiddo personol yn y tân.
Yn ôl cyfreithiwr Sheppard, John Allchurch, roedd ei gleient wedi diodde "llanw" o emosiynau ar y diwrnod o dan sylw ac erbyn hyn, roedd wedi colli ei gartre, ei ryddid, a'i wraig.
Dywedodd y Barnwr Peter Heywoood fod Sheppard wedi dinistrio popeth yr oedd wedi ei gyflawni, gan ddefnyddio petrol i wneud yn siŵr y byddai'r cyfan yn llosgi.