BBC Cymru Fyw

Isddeddf: Rhaid dychwelyd pysgod yn ôl i Afon Gwy

Published
image copyrightEnivironment Agency Wales
image captionRhaid i bysgotwyr ddychwelyd pysgod i'r afon
Mae isddeddf yn golygu bod rhaid i bysgotwyr gwialen ddychwelyd eog neu sewin sy'n cael eu dal yn ôl i Afon Gwy neu wynebu dirwy.
Dywedodd Asiantaeth Amgylchedd Cymru y byddai'r rheol newydd yn helpu diogelu poblogaeth pysgod.
Yn ôl Dr Stephen Marsh-Smith o Sefydliad Afonydd Gwy a Wysg, mae nifer yr eog yn yr afon wedi bod yn cynyddu yn raddol am 10 mlynedd.
Fe gafodd yr is-ddeddf ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Defra, Adran Amaeth San Steffan, ac fe allai barhau am hyd at 10 mlynedd.

'Lladd'

Dywedodd Pete Gough o'r asiantaeth: "Mae'r rhan fwyaf o bysgotwyr yn gyfrifol ac yn dodi'r eog neu'r sewin yn ôl yn yr afon.
"Ond mae yna rai sy'n eu lladd ..."
Yn ôl Dr Marsh-Smith, arferai Afon Gwy fod yn un o'r afonydd gorau ar gyfer pysgota sewin yn Ewrop.
Ond roedd cwymp sylweddol ym mhoblogaeth yr eog yng nghanol y saithdegau.

Diflannu

Pe bai'r duedd wedi parhau, byddai'r boblogaeth wedi diflannu erbyn 2005.
"Pe bai'r gwaharddiad wedi dod i rym yn 1996, mae'n bosib y byddwn yn ystyried ei godi erbyn heddiw," meddai.
Dywedodd fod pysgotwyr yn cyfrannu £5m at yr economi leol.
Gallai'r ffigwr ddyblu, meddai, pe bai yna fwy o bysgod.
Yr afon yw'r bumed hiraf yng Nghymru a Lloegr.
Mae'n 153 milltir o hyd, yn tarddu ym Mhumlumon, Ceredigion, ac yn llifo i aber Afon Hafren ger Cas-gwent.

Straeon perthnasol

  • Pryder am lefel isa' afonydd Cymru