Banc: Cyrff cyhoeddus yn tynnu eu harian o fanciau
- Cyhoeddwyd

Mae rhai cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi tynnu eu harian o fanc Santander UK oherwydd yr argyfwng bancio yn Sbaen.
Daw'r gweithredu er gwaethaf datganiadau gan y cwmni bod yr arian yn ddiogel.
Dywed y rhai sydd wedi gweithredu eu bod yn ymddwyn yn gall, ond yn ôl beirniaid does dim cyfiawnhâd dros y weithred.
Collodd rhai cyrff cyhoeddus yng Nghymru £74 miliwn pan ddymchwelodd banciau Gwlad yr Iâ yn 2008, er bod peth o'r arian yna bellach wedi ei ddychwelyd.
Cafodd y penderfyniad i dynnu arian o Santander UK ei ddatgelu fel rhan o ymchwiliad i raglen Dragon's Eye ar BBC Cymru.
Datgelodd hynny nad oes gan yr un o 22 awdurdod lleol Cymru arian wedi ei fuddsoddi mewn banciau yn Sbaen na Groeg.
Ond fe ddaeth i'r amlwg bod o leiaf tair prifysgol a thri cyngor yng Nghymru wedi atal eu busnes gyda Santander UK dros y misoedd diwethaf fel ymateb i'r argyfwng yn Sbaen.
Maen nhw'n cynnwys cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Sir y Fflint a Sir Fynwy ynghyd â phrifysgolion Abertawe, Aberystwyth a Glyndŵr.
Mae Santander UK - sydd yn fusnes ar wahân - wedi dweud bod buddsoddiadau gyda nhw yn ddiogel gan nad oes modd talu buddran i'r cwmni yn Sbaen heb gymeradwyaeth rheoleiddwyr ariannol yn y DU.
'Penderfyniad call'
Dywedodd hefyd nad oes angen cymorth ariannol ar Banco Santander, ac nad yw wedi gofyn am arian gan genhedloedd Ewrop.
Yn ôl rhai sy'n feirniadol o'r penderfyniad, mae'r hyn ddigwyddodd i fanc Northern Rock yn 2007 yn dangos beth all ddigwydd pan mae'r cyhoedd yn colli hyder mewn banc - ar y pryd doedd dim perygl i'r banc yna ddymchwel wedi i'r Trysorlys a Banc Lloegr ei gefnogi.
Ond mynnodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y cynghorau yn gwneud penderfyniad call yn seiliedig ar gyngor ariannol doeth.
Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidawdol Jonathan Evans wedi disgrifio'r cyrff cyhoeddus sydd wedi tynu euharian o Santander UK fel "gwirion" am wneud hynny dim ond am fod gan y banc enw "sy'n swnio ychydig yn Sbaenaidd".
"Mewn gwirionedd yr hyn ddylai'r sefydliadau yna wneud yw derbyn y cyngor gorau," meddai, "ond ar yr un pryd dibynnu ar y trefniadau rheoleiddio cadarnach sydd bellach mewn grym."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2012
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2008