Angen cyfleoedd ar actorion ifanc
- Published
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru fod angen mwy o gyfleoedd ar actorion ifanc i berfformio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe fyddai Llywodraeth Cymru hefyd â diddordeb mewn unrhyw argymhellion fyddai'n cynyddu defnydd y Gymraeg gan y Theatr Ieuenctid Genedlaethol neu sefydlu theatr ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe fyddai angen trafod unrhyw gynlluniau gyda Chyngor y Celfyddydau oherwydd mai mater iddyn nhw fyddai cyllido mudiad o'r fath.
Mae Cyfarwyddwr Presennol Theatr Ieuenctid yr Urdd Jeremy Turner wedi awgrymu y dylai unrhyw gwmni newydd fod yn broffesiynol.
O fewn wythnosau fe fydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn perfformio eu cynhyrchiad diweddaraf - 'Sneb yn Becso Dam.
Saesneg yn bennaf
Mae'r cwmni theatr yma yn un o bum prosiect yng Nghymru sydd wedi derbyn arian drwy gynllun Grym y Fflam sy'n rhan o'r Olympiad Diwylliannol.
Ac mae Jeremy Turner yn poeni beth fydd yn digwydd pan fydd yr arian yn dod i ben.
Mae Cyngor y Celfyddydau eisoes yn ariannu Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Tan ddiwedd y nawdegau roedden nhw'n perfformio dramâu Saesneg a Chymraeg. Ond bellach Saesneg ydi prif iaith y cynyrchiadau - gyda rhannau ohonyn nhw'n Gymraeg.
Dyna ble y cafodd nifer o actorion adnabyddus rhai o'u profiadau actio cyntaf, gan gynnwys Matthew Rhys a Richard Elis - sydd wedi actio ar Eastenders a Gwaith Cartref.
Opsiynau
Mae Sion Ifan wedi actio mewn cynyrchiadau llwyfan fel Deffro'r Gwanwyn, ac mewn cyfresi teledu fel Con Passionate a Pen Talar ar S4C.
Fel cyn-aelod o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, mae o'n teimlo bod actio mewn dramâu dwyieithog yn beth da.
Mae Cyngor y Celfyddydau wedi dweud eu bod nhw eisoes wedi bod yn trafod opsiynau gwahanol gydag Urdd Gobaith Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac wedi gofyn iddyn nhw drafod ffyrdd o gydweithio yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Published
- 6 Mehefin 2012
- Published
- 14 Mai 2012
- Published
- 25 Ebrill 2012
- Published
- 22 Mawrth 2012