Powlen yn gwerthu am £24,000 mewn ocsiwn
- Cyhoeddwyd

Cafodd menyw a roddodd bowlen Chineaidd mewn ocsiwn ei syfrdanu pan werthwyd yr eitem am £24,000.
Roedd wedi disgwyl i'r bowlen werthu am ryw £100.
Cyn yr ocsiwn roedd y bowlen efydd wedi cael ei hysbysebu ar y we a sylweddolodd casglwyr arwyddocâd y marciau Chineaidd arni.
Credir mai powlen allor ydi hi a'i bod yn dyddio o'r 15fed Ganrif.
Dywedodd yr arwerthwr mai rhywun o Beijing wnaeth y cynnig cyntaf am £16,000 dros y ffôn.
Yn y diwedd rhywun arall o Beijing lwyddodd i brynu'r bowlen ymhlith sawl cynnig arall dros y ffôn ac arlein.
Menyw o ogledd Cymru oedd yn gwerthu'r bowlen.
"Roedd hi bron â llewygu pan roddais i'r newyddion da iddi," meddai'r arwerthwr David Rogers Jones.
"Roedden ni wedi syfrdanu hefyd.
"Ond yn y cyfnod cyn yr ocsiwn roedden ni'n cael cymaint o ddiddordeb gan gasglwyr o China roedden ni'n gwybod y byddai'n gwerthu am bris da."
Nid oes manylion am y person oedd yn gwerthu'r bowlen ond credir i'r eitem fod yn ei theulu am nifer o flynyddoedd.