Cwest yn clywed am esgeulustod
- Cyhoeddwyd

Penderfynodd cwest yn Aberdâr fod carcharor wedi lladd ei hun ond bod yna esgeulustod ar ran yr awdurdodau.
Bu farw Shaun Beasley o Surrey yng Ngharchar y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl crogi ei hun.
Cafodd ei symud yno o garchar yn Sir Gaergrawnt er mwyn dilyn cwrs i bobl sy'n camddefnyddio cyffuriau.
Ond pan gyrhaeddodd y carchar yng Nghymru cafodd wybod nad oedd lle iddo ar y cwrs.
Cyflwr bregus
Clywodd y cwest ei fod wedi ffonio ei deulu ddwy awr cyn ei farwolaeth, gan ddweud nad oedd yn gallu ymdopi.
Dywedodd ei chwaer Donna Ridgley wrth y cwest ei bod hi wedi ffonio'r carchar a rhybuddio bod ei brawd mewn cyflwr bregus.
Cwmni o'r enw PrimeCare oedd yn darparu gofal iechyd yn y carchar ar y pryd ond nid bellach.
Newidiadau
Dywedodd y crwner na fyddai'n gwneud unrhyw argymhellion oherwydd ei bod o'r farn fod newidiadau eisoes wedi bod fyddai'n atal marwolaethau yn y dyfodol.
Roedd y chwaer yn ei dagrau pan glywodd y rheithfarn.
"Byddwn yn hoffi diolch i'r crwner a'r rheithgor am ymchwiliad trwyadl. Rydym yn gobeithio y bydd y rheithfarn yn ein helpu i symud ymlaen ar ôl y cyfnod ofnadwy yma yn ein bywydau.
"Mae'r rheithfarn wedi cadarnhau'r hyn rydym o hyd wedi teimlo, roeddem yn teimlo fod y drefn wedi gadael Shaun i lawr ac mae'n bwysig fod yna gydnabyddiaeth gyhoeddus i hyn."
Eisoes mae cwmni Primecare a G4S, y bobl sy'n gyfrifol am y carchar, wedi talu iawndal i'r teulu.