Apêl cynghorydd Môn yn debygol

  • Cyhoeddwyd
Hefin Wyn ThomasFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae Hefin Wyn Thomas yn cynrychioli Pentraeth ar Gyngor Sir Ynys Môn

Mae'r Cynghorydd Hefin Thomas yn bwriadu apelio ar ôl iddo gael ei wahardd am chwe mis rhag mynychu cyfarfodydd Cyngor Sir Ynys Môn.

Cafodd ei wahardd gan y Pwyllgor Safonau am iddo dorri cod ymddygiad.

Y llynedd yn Llys Ynadon Caergybi fe wnaeth y Cynghorydd Thomas o Bentraeth bledio'n euog i gyhuddiad o beidio â datgan ei incwm fel cynghorydd wrth hawlio budd-dal anabledd.

Mae gan y cynghorydd tan Orffennaf 11 i gyflwyno ei bapurau apêl i Banel Dyfarnu Cymru.

Ni fyddai gwaharddiad yn dod i rym hyd nes bod y broses apêl wedi dod i ben.

Mae'r cynghorydd felly, yn rhydd i gynrychioli etholaeth Pentraeth a Llanddona ac i fynychu cyfarfodydd y cyngor yn y cyfamser.

Mae Panel Dyfarnu Cymru yn debyg o ystyried ei apêl yn ystod mis Medi neu Hydref.

Wrth ystyried y mater, fe all Panel Dyfarnu Cymru ddewis cefnogi penderfyniad y Pwyllgor Safonau neu ddewis gwneud argymhelliad gwahanol gosb i'r Pwyllgor Safonau.

Byddai'n rhaid i'r Pwyllgor Safonau wedyn ystyried eiliad hwnnw.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol