Nwy: Pobl yn cael mynd adre yn Abergwaun

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl yn cael mynd yn ôl i'w tai wedi i ardal gael ei chau am fod nwy'n gollwng rhwng y sgwâr a'r A40 yn Abergwaun.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Rydyn ni'n ymchwilio i'r digwyddiad ... a bydd Stryd y Gorllewin ar gau.

"Fe garai'r asiantaethau ddiolch i'r gymuned am ymateb yn gyflym, yn enwedig staff a phlant ysgolion lleol."

Dywedodd y cyngor fod pobl oedd yn gorfod gadael eu tai wedi aros am oriau yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun.

Yno brynhawn Gwener mae brechdanau, te a choffi ar gael i'r rhai sy' heb gyflenwad nwy yn eu tai.

'Diogelwch'

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw am 9.29am.

Ar un adeg roedd dau griw o Hwlffordd a'r heddlu yn y fan a'r lle ac ardal 250 metr wedi ei chau.

Fore Gwener dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Does neb wedi ei anafu. Mae diogelwch y cyhoedd yn hollbwysig ..."