Dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru
- Published
Mae gweithgareddau yn cael eu cynnal ar hyd a lled Prydain i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog am y bedwaredd flwyddyn o'r bron.
Yn 2009 y cynhaliwyd Diwrnod y Lluoedd Arfog am y tro cyntaf.
Mae'n cydnabod cyfraniad y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'r rhai sy'n dal i wneud hynny.
Roedd gorymdaith fel rhan o'r digwyddiad yng Nghaerdydd.
Cafodd cofeb i Ryfel y Falkland yng Ngerddi Alexandra ei hailgysegru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £20,000 tuag at y dathliadau blaenllaw drwy Gymru.
Aeth 60 o flynyddoedd heibio ers i'r Gatrawd Gymreig (sy'n rhan o'r Cymry Brenhinol erbyn hyn) gymryd rhan yn Rhyfel Korea, ac aeth 30 o flynyddoedd heibio ers i'r Gwarchodlu Cymreig chwarae rhan flaenllaw yn y gwrthdaro ar Ynysoedd Falkland.
Roedd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru yn bresennol yn y digwyddiad i nodi'r achlysur ar dir Castell Caerdydd.
Roedd aelodau o'r lluoedd arfog yno hefyd wrth i Mr Jones roi darlleniad.
Pecyn o gefnogaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o gefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru.
Mae'r gefnogaeth yn cynnwys caniatáu i fwy o bobl fanteisio ar y cynllun tocynnau teithio rhatach a chaniatáu i gyn-filwyr a staff milwrol sydd ar eu gwyliau fanteisio ar gynlluniau nofio am ddim.
"Rydyn ni yma heddiw i ddweud diolch wrth aelodau'r lluoedd arfog am y gwaith maen nhw'n ei wneud drosom ni," meddai Mr Jones.
"Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i bob un ohonom ddangos ein gwerthfawrogiad a chydnabod agwedd broffesiynol, ymrwymiad ac aberth ein milwyr, yn ddynion a menywod.
"Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi cymuned y lluoedd arfog yma yng Nghymru drwy weithio i wneud yn siŵr fod milwyr sydd ar wasanaeth a'u teuluoedd, yn ogystal â chyn-filwyr, yn gallu defnyddio gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion penodol nhw."
Yn ôl Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: "Mae baner Diwrnod Lluoedd Arfog Prydain eisoes yn chwifio'n falch uwchben Tŷ Gwydr yn Whitehall i ddangos ein cefnogaeth a'n diolch.
"Rwy'n falch o gael y cyfle i fod yma yng Nghaerdydd i gyfarfod â rhai o'r bobl ysbrydoledig hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ymuno yn y digwyddiadau â'r dathliadau sy'n cael eu cynnal."
Straeon perthnasol
- Published
- 26 Mehefin 2010
- Published
- 27 Mehefin 2009