Codi arian yn eu dillad isa' yn Nyffryn Conwy
- Cyhoeddwyd

Fe fydd criw o ddynion a merched yn cerdded 26 milltir yn eu dillad isa'.
Eu bwriad yw codi arian ar gyfer unedau canser yn ysbytai Llandudno a Glan Clwyd.
Fe fyddan nhw'n cerdded o Ysbyty Ifan i Bentrefoelas.
Cychwynnodd y daith o Ysbyty Ifan am 8.30am, gan anelu i fod yn Betws y Coed am 1pm.
Fe fydd y daith wedyn yn parhau am 16 milltir arall wedyn trwy Rhydlanfair gan orffen yng ngwesty'r Foelas, Pentrefoelas.
"Rydan ni wedi bod yn paratoi at daith gerdded BrasGamu a Thrôns Gwlad (i ddynion) ers misoedd bellach," meddai Siwan Hywel, un o drefnwyr y daith.
"Mae'r bras a'r tronsiau wedi ei haddurno, a rŵan dan ni'n barod am y sialens!"
Unedau lleol
Nid dyma'r tro cyntaf iddyn nhw fynd ati i godi arian, ond hyd yma y merched sydd wedi bod yn gwneud y cerdded.
Dywedodd Siwan Hywel bod y merched wedi bod yn gwneud y daith ers tair blynedd bellach.
"Ond roedden ni'n awyddus i'r dynion beidio colli allan eleni.
"Roeddan ni eisiau dynion i godi ymwybyddiaeth, casglu arian a cherdded y daith Drôns Gwlad."
Bydd yr arian eleni yn mynd at ddwy elusen, Uned Canser y Fron yn Ysbyty Llandudno ac Uned Canser y Ceilliau yn Ysbyty Glan Clwyd.
Y llynedd casglwyd £4,000 tuag at elusennau, Uned Canser y Fron yn Ysbyty Llandudno; Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd; Ymatebwyr Cyntaf Uwchaled ac Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2011
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2011
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2010
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2008
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2008