Pledio'n ddi-euog i lofruddio'r pensiynwr Peter Lewis

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Peter Lewis wedi iddo gael ei drywanu yn ei gartref yng Nghaerdydd

Yn Llys y Goron Caerdydd, fe blediodd dyn 31 oed o'r ddinas yn ddi-euog i lofruddio pensiynwr yn ardal y Rhath.

Bu farw Peter Lewis, 68 oed, yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl cael ei drywanu unwaith yn ei stumog yng nghyntedd cymunedol tŷ lle oedd ei fflat yn Heol Claude yn Y Rhath ym mis Ebrill.

Mae disgwyl i'r achos yn erbyn William Jones o ardal Adamsdown gael ei gynnal yn ddiweddarach eleni.

Roedd yr heddlu wedi dweud bod Mr Lewis yn "oedolyn bregus ag anawsterau dysgu" oedd yn byw ar ei ben ei hun.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol