Dreigiau Morgannwg yn colli
- Cyhoeddwyd
Yng Nghystadleuaeth yr Ugain Pelawd nos Wener, colli fu hanes Morgannwg ar gae New Road yng Nghaerwrangon o 19 rhediad.
Roedd angen 165 i ennill, ond ofer fu ymdrech y Dreigiau wrth iddynt orffen yn 145 am 6, gyda Stewart Walters yn 40 heb fod allan.
Nesa i Forgannwg fydd ymweliad Northampton i Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd nos Sadwrn.