Dadorchuddio plac i gofio'r dyn roddodd gychwyn i Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd

Mae plac wedi ei osod ar un o gapeli Corwen i gofio un o weinidogion y dref oedd yn weithgar gyda mudiad yr Urdd yn yr ardal.
Y Parchedig T Arthur Jones gafodd y syniad cyntaf i gynnal Eisteddfod i aelodau'r Urdd.
Roedd yn Weinidog yng Nghorwen rhwng 1925 a 1933.
Cafodd yr Urdd ei sefydlu 90 mlynedd yn ôl wedi gwahoddiad gan Syr Ifan ab Owen Edwards ymddangosodd yn rhifyn Ionawr o Cymru'r Plant.
Mae'r plac wedi cael ei osod ar Eglwys Unedig Seion yn y dref, lle'r oedd Mr Jones yn weinidog.
Ei ferch Marion oedd yn ei ddadorchuddio brynhawn Sadwrn.
Cafodd Eisteddfod yr Urdd ei chynnal am y tro cyntaf ym Mhafiliwn Corwen yn 1929 a Mr Jones oedd Ysgrifennydd cyntaf yr Ŵyl ar gais Syr Ifan.
Yn y Pafiliwn
Yn ogystal â dadorchuddio'r plac roedd 'na anerchiad gan Gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn, a chyfraniadau cerddorol a llafar gan blant lleol oedd yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni yn Eryri.
Dywedodd Nia Morris, trefnydd yr achlysur, bod hi'n bwysig cofnodi cyfraniad Mr Jones, nid yn unig i dref Corwen ond i'r Urdd.
"Mewn cyfarfod o bwyllgor cylch yr Urdd ym mis Ebrill 1928 y gwnaeth Mr Jones godi'r syniad ac fe gafodd ei chynnal ym Mhafiliwn Corwen flwyddyn yn ddiweddarach.
"Roedd Syr Ifan ab Owen Edwards yn credu ei fod yn syniad da ac fe ofynnodd i Mr Jones ei drefnu."
Eglurodd mai gŵyl ddeuddydd oedd yr Eisteddfod gyntaf gyda nifer o blant lleol yn cystadlu.
"Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am Mr Jones ac yn sicr ddim yn ymwybodol o'i gyfraniad," ychwanegodd.
"Roeddwn yn awyddus i nodi ei gyfraniad neu fe fyddai'n mynd yn angof wrth i'r cenedlaethau ein gadael.
"Mae 'na blac y tu mewn i Bafiliwn Corwen yn nodi mai yno y cafodd yr Eisteddfod ei chynnal, ond gyda dyfodol yr adeilad yn ansicr, efallai y byddwn yn colli'r cofnod allanol o bwysigrwydd Corwen yn hanes yr Eisteddfod."
Dywedodd bod nifer o blaciau gwyrdd wedi dechrau cael eu gosod yn y dref gan gynnwys un ar Westy Owain Glyndŵr, lleoliad yr Eisteddfod gyhoeddus cyntaf yn 1789.
"Mae'n bwysig gwneud hyn rŵan, gan fod 'na rai oedd yn cystadlu yn yr Eisteddfod gyntaf dros 80 mlynedd yn ôl yn dal gyda ni," meddai'r trefnydd.
"Rydym yn gobeithio y bydd un ohonyn nhw gyda ni yn y dathliad ddydd Sadwrn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012