Mam yn ei dagrau yn Llys y Goron Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed bod doctoriaid wedi defnyddio grym wrth dynnu mam yn rhydd oddi wrth gorff ei babi oedd wedi marw.
Roedd Michelle Smith, 33 oed, yn ei dagrau wrth ddweud ei bod wedi erfyn yn daer ar ddoctoriaid i adael iddi ddal Amy oedd yn 42 ddiwrnod oed.
Mae'r diffynnydd yn wynebu cyhuddiad o lofruddio ei merch ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod Amy wedi cael ei gwenwyno â phoen laddwr.
Ac mae hi'n gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac un arall o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.
Cafwyd hyd i'r cyffur dihydrocodeine yng ngwaed Amy ar ôl archwiliad post-mortem.
Heb ei roi
Daeth i'r amlwg fod sampl dŵr y babi, oedd wedi ei chymryd ynghynt wedi profi'n bositif.
Ni chafodd y canlyniad ei roi i feddygon y babi.
Bu farw Amy ar Dachwedd 9, 2007, ar ôl cael ei chludo i'r ysbyty.
Nid oedd parafeddygon aeth i'w thŷ yn Nhreforys wedi llwyddo i'w hadfywio.
Ychydig o oriau ynghynt roedd ymwelydd iechyd wedi gweld Amy a dweud ei bod hi'n "gwbl iach".
Hynod o wan
Clywodd y rheithgor fod meddygon yn Ysbyty Singleton wedi dweud bod bod curiad calon y babi'n hynod o wan.
Dywedodd y fam fod hyn wedi codi ei gobeithion ond bod y meddyg teulu, Ingo Scholler, wedi dweud y byddai nam ar ymennydd y babi pe bai'n goroesi.
Funudau yn ddiweddarach cafodd y fam a'i gŵr wybod nad oedd diben parhau â'u hymdrechion a gofynwyd am hawl i ddiffodd y peiriant cynnal bywyd.
Dywedodd y diffynnydd fod Dr Scholler wedi rhoi corff y babi yn ei dwylo wrth i'r peiriant gael ei ddiffodd.
'Cofleidio'
"Ro'n i'n gafael yn rhan ucha ei chorff a'r gŵr yn gafael yn y gweddill," meddai dan deimlad.
"Fe wnaeth Dr Scholler ein cofleidio ni'n dau a dweud: 'Mae'n ddrwg 'da fi'.
"Do'dd e ddim yn gallu dweud beth o'dd wedi digwydd oherwydd nad oedd e'n gwybod.
Awr yn ddiweddarach fe ddychwelodd y meddygon i fynd â'r babi i'r marwdy.
"O'n i'n pallu gadel iddi fynd," meddai'r fam yn ei dagrau.
'Ar y llawr'
"Ro'n ar y llawr yn dweud taw hi oedd fy merch i."
Dywedodd fod ei babi'n "oer iawn" erbyn hyn a bod Dr Scholler a nyrs wedi llwyddo i dynnu'r babi'n rhydd o'i dwylo.
"Hwnna oedd y tro olaf i mi ei gweld."
Mae'r achos yn parhau
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2012