Rhys Williams yn ennill y ras 400 metr dros y clwydi
- Cyhoeddwyd

Mae Rhys Williams wedi rhoi hwb enfawr i'w obeithion o sicrhau ei le yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain ar ôl ennill y ras 400 metr dros y clwydi ym mhencampwriaethau Ewrop yn Helsinki nos Wener.
Un lle sydd ar ôl yn Nhîm Prydain ar gyfer Y Gemau Olympaidd.
Roedd Williams a Nathan Woodward o Loegr - oedd yn rhedeg yn yr un ras - yn gobeithio cael eu cynnwys yn y tîm drwy greu argraff ar y dewiswyr.
Ond llwyddodd Williams i ennill y Fedal Aur gydag amser o 49.33 eiliad.
Dyma'r ail waith felly i'r rhedwr 28 oed lwyddo i gyrraedd safon 'A' Y Gemau Olympaidd ar ôl methu a chyrraedd safon treialon Tîm GB.
Roedd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi amser o 49.63 eiliad.
Yr amser i'w guro oedd 49.50 eiliad.
Roedd yn credu y gallai guro hynny yn y rownd derfynol.
Morse a Warburton
Yn y cyfamser mae'r taflwr disgen o Gymru, Brett Morse, wedi methu cyrraedd ei rownd derfynol.
Dydi Morse, 23 oed o Gaerdydd, ddim wedi cyrraedd y safon 'A' ar gyfer Y Gemau Olympaidd ers y tymor diwetha'.
Ei bellter gorau yw 62.27 metr ond mae roedd angen 65.00 metr i sicrhau ei le yn y tîm.
Bydd rhaid iddo aros tan ddydd Mawrth nesa' i weld fydd o yn nhîm Prydain ar gyfer Y Gemau.
Bydd y dewiswyr yn cyhoeddi ddydd Mawrth pwy fydd yn cynrychioli Tîm GB o ran yr athletau.
Methodd Gareth Warburton a sicrhau ei le yn rownd derfynol ras 800 metr y dynion ddydd Iau.
Daeth Warburton yn olaf yn y rownd gynderfynol.
Roedd yn bedwerydd yn y ras yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2010 ac fe lwyddodd i ennill ei ragras gydag amser o 1 munud 45.80 eiliad.
Mae o wedi cyrraedd safon 'A' y Gemau ond fe fydd yntau yn aros i weld a fydd y dewiswyr yn ei ddewis.