Symud corff cerddwr oddi ar Y Glyder Fawr

Glyder Fawr Image copyright Alastair Tye
Image caption Daeth timau achub o hyd i'r corff ddydd Gwener ar Y Glyder Fawr

Cafodd corff cerddwr ei symud o'r Glyder Fawr yn Eryri.

Cafodd y corff ei ganfod 90 metr o dan wyneb craig ar y mynydd yn Nyffryn Ogwen ddydd Gwener.

Aelodau o dimau achub a fu'n chwilio'r mynyddoedd am gerddwr o Sir Amwythig, Christopher Whitfield, wnaeth ganfod y corff.

Er hynny, dydi'r heddlu ddim wedi dweud a ydi'r darganfyddiad yn gysylltiedig â diflaniad Mr Whitfield.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn y broses o adnabod y dyn sydd wedi marw.

Dydi'r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un amheus.

Tir ansefydlog

Cafodd yr heddlu alwad am 1.46pm ddydd Gwener bod corff ar y mynydd.

Cafodd y Crwner ei hysbysu ac fe gafodd y corff ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gan hofrennydd y Llu Awyr o'r Fali.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru bod hi wedi bod yn "anodd a hir" i gyrraedd y corff a'i symud oherwydd bod y tir dan draed yn ansefydlog.

Mae timau achub vod bod yn chwilio am dridiau am Mr Whitfield, 42 oed, sydd ddim wedi cael ei weld ers dydd Sul.

Roedd o'n bwriadu cerdded i gopa Tryfan pan aeth ar goll.

Mae ei gar wedi cael ei ganfod mewn cilfan yn Nyffryn Ogwen.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.